Grimsby 3–0 Casnewydd                                                                 

Colli fu hanes Casnewydd wrth iddynt deithio i Blundell Park i herio Grimsby yn yr Ail Adran brynhwan Sadwrn.

Ychydig dros chwarter awr a oedd ar y cloc pan roddodd Jordan Cook y tîm cartref ar y blaen, yn troi yn y cwrt cosbi cyn taro ergyd isel gywir heibio i Nick Townsend.

Felly yr arhosodd hi tan haner amser ond roedd Cook wedi dyblu mantais ei dîm ddeg munud wedi’r egwyl, yn gorffen yn dda wedi gwaith creu taclus Reece Hall-Johnson.

Rhoddwyd y canlyniad tu hwnt i unrhyw amheuaeth chwe munud o ddiwedd y naw deg pan wyrodd Mickey Demetriou’r bêl i’w rwyd ei hun.

Mae Casnewydd yn llithrio i’r pedwerydd safle ar ddeg yn y tabl yn dilyn y golled, ddeg pwynt o’r safleoedd ail gyfle bellach.

.

Grimsby

Tîm: Russell, Hall-Johnson (Whitmore 75’), Ohman, Collins, Hendrie, Hessenthaler, Embleton (Clifton 65’), Woolford, Ring, Cook, Thomas (Dennis 79’)

Goliau: Cook 17’, 56’, Demetriou [g.e.h.] 84’

.

Casnewydd

Tîm: Townsend, Pipe, Pool, Demetriou, Neufville, Labadie (Sheehan 62’), Dolan, Bakinson (Crofts 80’), Kennedy, Matt, March-Brown (Amond 59’)

Cerdyn Melyn: Pipe 76’

.

Torf: 3,712