Middlesbrough 1–1 Casnewydd                                                   

Bydd Casnewydd yn yr het ar gyfer pumed rownd y Cwpan FA wedi i gôl hwyr Matty Dolan gipio gêm gyfartal iddynt oddi cartref yn erbyn Middlesbrough yn y bedwaredd rownd brynhawn Sadwrn.

Gôl yr un a orffennodd hi yn Stadiwm Riverside a bydd yn rhaid i’r ddau dîm wynebu ei gilydd unwaith eto ar Rodney Parade mewn wythnos a hanner.

Crafodd Padraig Amond bostyn Middlesbrough ym munud cyntaf y gêm ond y tîm cartref a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf wedi hynny.

Bu bron i Gasnewydd fynd ar y blaen cyn yr egwyl serch hynny ond cafodd ergyd Amond yn y cwrt chwech ei hatal gan Darren Randolph.

Boro a ddechreuodd yr ail hanner orau ac roeddynt ar y blaen wedi pum munud pan beniodd Daniel Ayala i gefn y rhwyd o gic gornel Lewis Wing.

Roedd y tîm cartref yn eithaf cyfforddus wedi hynny, tan i Gasnewydd ddechrau taflu cyrff ymlaen yn y deg munud olaf.

Arweiniodd hynny at gyfleoedd i Antoine Semenyo a Jamille Matt i ddechrau ac yna at ddrama hwyr yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Creodd pêl fygythiol Josh Sheehan gynnwrf yng nghwrt cosbi Middlesbrough a phan ddisgynodd hi i Dolan fe wnaeth o’r gweddill.

Bydd y ddau dîm yn yr het ar gyfer y bumed rownd nos Lun cyn ail chwarae yng Nghasnewydd mewn deg diwrnod.

.

Middlesbrough

Tîm: Randolph, Shotton (McNair 72’), Ayala, Flint, Friend, Mikel (Clayton 62’), Downing, Wing, Saville, Fletcher (Tavernier 80’), Assombalonga

Gôl: Ayala 51’

Cerdyn Melyn: Fletcher 52’

.

Casnewydd

Tîm: Townsend, Poole, O’Brien, Demetriou (Dolan 87’), Butler, Willmott, Bennett, Bakinson (Labadie 78’), Semenyo, Amond (Sheehan 79’)

Gôl: Dolan 90+3’

.

Torf: 15,794