Wrecsam 0–1 Dover                                                                          

Llithrodd Wrecsam i’r trydydd safle yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr wrth golli yn erbyn Dover ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Roedd gôl hwyr Anthony Jeffrey yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth annisgwyl i’r ymwelwyr o waelodion y tabl wrth i’r Dreigiau golli am yr eildro o’r bron.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, daeth Akil Wright a Ben Tollitt yn agos i’r tîm cartref wedi’r egwyl.

Ond talu’r pris am wastraffu cyfleoedd a wnaeth tîm Graham Barrow dri munud o’r diwedd pan yr enillodd Jeffrey’r gêm i’r ymwelwyr gydag ergyd gadarn o ochr y cwrt cosbi.

Mae’r canlyniad hwn, ynghyd â buddugoliaeth i Salford, yn golygu bod y Cymry’n llithro i’r trydydd safle yn y tabl. Yr unig newyddion da yw mai yn erbyn Leyton Orient yr oedd buddugoliaeth Salford felly dim ond pedwar pwynt sydd yn gwahanu’r tri uchaf o hyd.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Jennings Rutherford, Summerfield, Pearson, Young (Wright 65’), Walker (Holroyd 82’), Lawlor, Beavon (Tollitt 53’), Grant

Cardiau Melyn: Walker 64’, Jennings 73’, Pearson 76’, Roberts 90+1’

.

Dover

Tîm: Walker, Lokko, Brundle, Debayo, Doe, Nortey, Leiws, Reason, Allen (Modeste 82’), Effiong, Pavey (Jeffrey 46’)

Gôl: Jeffrey 87’

Cardiau Melyn: Lokko 30’, Reason 64’, Allen 80’

 

.

Torf: 4,817