Mae rheolwr Caerdydd, Neil Warnock, yn mynnu nad oes sail i ofnau y gallai’r chwaraewr canol cae Victor Camarasa adael y clwb yn ffenest drosglwyddo mis Ionawr.

Mae’r chwaraewr 24 oed sydd ar fenthyg gan Real Betis o Seville yn Sbaen yn cael ei weld gan lawer fel chwaraewr gorau Caerdydd y tymor yma hyd yn hyn.

Roedd sibrydion y gallai fod yn symud, ond mae Neil Warnock yn pwysleisio y bydd yn aros gyda nhw am y tymor cyfan.

“Mae’n gwella o hyd wrth i’r tymor fynd ymlaen, a gall Real Betis ddiolch i mi fy mod i wedi ei roi yn ffenest y siop!” meddai.

“Mae’n rhaid fod ganddyn nhw dîm anhygoel, a dw i wedi gofyn iddyn nhw os oes ganddyn nhw rhagor o eilyddion fel ef.

“Dw i’n meddwl ei fod wedi aeddfedu y tu hwnt i bob adnabyddiaeth. Fe hoffwn feddwl fy mod i wedi rhoi’r rhyddid iddo wneud yr hyn mae’n dda am ei wneud.”

Hwb arall i Gaerdydd cyn eu taith i Gaerlŷr yfory (dydd Sadwrn) yw y bydd y gôl-geidwad Neil Etheridge ar gael ym mis Ionawr.

Roedd disgwyl y byddai wedi cael ei alw i chwarae dros ei wlad yn nhwrnameint Cwpan Asia yn yr Emiradau Arabaidd Unedig y mis nesaf, ond mae rheolwr y Phillippines, Sven-Goran Eriksson, wedi penderfynu ei adael allan o’r garfan.