Wrecsam 5–1 Salford                                                                        

Roedd dydd gŵyl San Steffan yn ddiwrnod da iawn i Wresam yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr. Rhoddod y Dreigiau gweir i Salford ar y Cae Ras, ychydig oriau wedi i Leyton Orient golli yn Dagenham & Redbridge.

Dechreuodd Wrecsam y diwrnod yn drydydd a chwe phwynt o’r brig ond maent bellach yn ail ac wedi cau’r bwlch i dri.

Rhoddodd goliau hanner cyntaf Shaun Pearson, Akil Wright a Brad Walker fantais iach i’r tîm cartref o flaen torf wych o dros wyth mil.

Bu oedi yn y sgorio wedi hynny tan y munudau olaf pan y trodd goliau’r eilyddion, Ben Tollitt a Chris Holroyd, y fuddugoliaeth yn grasfa.

Gorffennodd Salford y gêm gyda deg dyn wedi cerdyn coch Thomas Walker ond wnaeth hynny ddim atal Daniel Whitehead rhag rhwydo gôl gysur i’r tîm y mae Ryan Giggs yn berchen ar 10% ohono.

Mae’r fuddugoliaeth swmpus yn codi Wrecsam dros Salford i’r ail safle yn y tabl, dri phwynt yn unig y tu ôl i Orient ar y brig ac mae gan dîm Graham Barrow gêm wrth gefn.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Jennings, Pearson, Lawlor, Rutherford (Deverdics 87’), Wright, Summerfield, Walker, Carrington, Beavon, (Tollitt 64’), Grant (Holroyd 84’)

Goliau: Pearson 3’, Wright 24’, Walker 45’, Tollitt 86’, Holroyd 90’

.

Salford

Tîm: Neal, Touray, Wiseman (Rodney 76’), Piergianni, Whitehead, Mafuta (Gaffney 66’), Walker, Pond (Hogan 46’), Rooney, Lloyd-McGoldtick, Green

Gôl: Whitehead 90’

Cardiau Melyn: Pond 44’, Piergianni 49’, Mafuta 65’, Touray 72’, Walker 74’, 89’

Cerdyn Coch: Walker 89’

.

Torf: 8,283