Casnewydd 4–0 Wrecsam
Casnewydd a fydd yn herio Caerlŷr yn nhrydedd rownd y Cwpan FA wedi iddynt drechu Wrecsam yn yr ail rownd ar Rodney Parade nos Fawrth.
Roedd y ddau dîm o Gymru’n ail chwarae wedi gêm gyfartal ddi sgôr ar y Cae Ras yn y gêm wreiddiol. A gyda chymorth cerdyn coch cynnar i Wrecsam, Casnewydd a aeth â hi ar yr ail gynnig, a hynny byda buddugoliaeth gyfforddus o bedair gôl i ddim.
Deuddeg munud yn unig a oedd ar y cloc pan yr anfonwyd Luke Young oddi ar y cae am dacl hwyr ar Mickey Demetriou.
Llwyddodd deg dyn Wrecsam i gadw pethau’n ddi sgôr tan hanner amser ond buan iawn y newidiodd hynny wedi’r egwyl.
Peniodd Padraig Amond y tîm cartref ar y blaen o groesiad Fraser Franks bedwar munud ar ôl troi cyn i Jamille Matt ddyblu’r fantais toc cyn yr awr wedi gwaith creu Robbie Willmott.
Rhoddodd gôl i rwyd ei hun gan Mark Carrington dair gôl o fantais i Gasnewydd ac roedd y canlyniad y tu hwnt i unrhyw amheuaeth ym mhell cyn i Dan Butler ychwanegu’r bedwaredd o bellter yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Gwobr Mike Flynn a’i dîm am y fuddugoliaeth hon fydd gêm fawreddog yn erbyn Caerlŷr o Uwch Gynghrair Lloegr yn y drydedd rownd. Bydd y gêm honno i’w darlledu’n fyw ar Ionawr y 6ed.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Pipe, Butler, Franks, Demetriou (Pring 75’), Dolan (Labadie 66’), Bennett (Willmott 51’), Bakinson, Semenyo, Amond, Matt
Goliau: Amond 49’, Matt 59’, Carrington [g.e.h.] 65’, Butler 90+1’
Cardiau Melyn: Butler 16’, Pipe 56’
.
Wrecsam
Tîm: Lainton, Carrington, Lawlor, Pearson, Jennings, Wright, Summerfield (Deverdics 70’), Young, Rutherford, Grant (Fondop-Talom 79’), Beavon (Holroys 56’)
Cardiau Melyn: Lainton 16’, Pearson 16’, Fondop-Talom 81’
Cerdyn Coch: Young 12’
.
Torf: 4,143