Swindon 2–1 Casnewydd
Colli fu hanes Casnewydd wrth iddynt ymweld â’r County Ground i herio Swindon yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.
Cyfartal oedd hi gyda deg munud yn weddill ond cipiodd y tîm cartref y pwyntiau i gyd gyda gôl hwyr Kaiyne Woolery.
Roedd llai na munud ar y cloc pan agorodd Michael Doughty’r sgorio i Swindon, ei gynnig o ongl dynn yn gwyro i mewn oddi ar Davi Pipe.
Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond roedd Casnewydd yn gyfartal yn gynnar yn yr ail gyfnod diolch i beniad Peniad Padraig Amond o groesiad Tyreeq Bakinson.
Ac roedd hi’n ymddangos mai felly y byddai pethau’n gorffen tan i gôl Woolery wyth munud o’r diwedd gipio’r tri phwynt i’r tîm cartref.
Mae Casnewydd yn llithro i’r chweched safle yn y tabl o ganlyniad i’r golled.
.
Swindon
Tîm: Vigouroux, Knoyle, Nelson, woolfenden, Iandolo, Dunne, Taylor, Doughty, Woolery (Lancashire 87’), Adebayo, Twine (McGlashan 73’)
Goliau: Doughty 1’, Woolery 82’
Cardiau Melyn: Iandolo 26’, Adebayo 50’
.
Casnewydd
Tîm: Day, Franks, O’Brien (Labadie 67’), Demetriou, Pipe (Semenyo 26’), Bakinson, Crofts (Bennett 44’), Sheehan, Butler, Amond, Matt
Gôl: Amond 47’
Cardiau Melyn: Demetriou 8’, O’Brien 45+2’, Semenyo 50’
.
Torf: 6,204