Bydd Gareth Bale yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Dyw’r blaenwr o glwb Real Madrid ddim wedi bod yn bresennol yn rhai o gemau diwethaf Cymru oherwydd anaf, ond fe fydd yn gwisgo crys ei wlad unwaith eto wrth herio Denmarc ar Dachwedd 16 ac Albania wedi hynny.

Mae disgwyl i Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu ddychwelyd i’r garfan hefyd ar ôl colli’r gem yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Ymhlith newidiadau eraill i’r garfan wedyn yw dewis Tom Lockyer, Dan James a Neil Taylor i gymryd lle Declan John, Jazz Richards a Ben Davies – sydd wedi’i wahardd rhag chwarae gêm Denmarc.

Mae James Lawrence, yr amddiffynnwr 26 oed gydag Anderlecht hefyd yn y garfan. Mae’n cael chwarae i Gymru oherwydd bod ei Nain yn dod o Hwlffordd.

Y garfan

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Barnsley);

Connor Roberts (Abertawe), Chris Gunter (Reading), Ashley Williams (c) (Everton – ar fenthyg yn Stoke), James Chester (Aston Villa), Chris Mepham (Brentford), Ethan Ampadu (Chelsea), Tom Lockyer (Bristol Rovers), James Lawrence (Anderlecht), Paul Dummett (Newcastle), Neil Taylor (Aston Villa);

Joe Allen (Stoke), Matt Smith (Machester City – ar fenthyg yn FC Twente), Aaron Ramsey (Arsenal), Andy King (Caerlŷr), George Thomas (Caerlŷr – ar fenthyg yn Scunthorpe), Harry Wilson (Lerpwl – ar fenthyg yn Derby County), David Brooks (Bournemouth), Daniel James (Abertawe);

Ben Woodburn (Lerpwl – ar fenthyg yn Sheffield United), Tom Lawrence (Derby County), Tyler Roberts (Leeds United), Sam Vokes (Burnley), Gareth Bale (Real Madrid).