Mae disgwyl i ymosodwr Cymru, Gareth Bale fod yn holliach i herio Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Nulyn nos Fawrth nesaf.

Ond mae amheuon na fydd e’n ffit i herio Sbaen yng Nghaerdydd nos Iau ar ôl dod oddi ar y cae yn ystod gêm Real Madrid yn erbyn Alaves y penwythnos diwethaf ar ôl anafu cesail y fforddwyd.

Fe fu staff meddygol Cymru’n asesu ei ffitrwydd dros y dyddiau diwethaf.

Os nad yw’n herio Sbaen, mae disgwyl i chwaraewr ifanc Derby, Harry Wilson gymryd cyfrifoldeb am giciau rhydd yn dilyn chwip o ergyd yn Old Trafford fis diwethaf.

Cafodd ei ganmol am y gôl gan reolwr Cymru, Ryan Giggs, er iddo gyfaddef iddo gael cerydd am ei ddathliad ar ôl sgorio’r gôl.