Fe fydd un o fawrion Clwb Pêl-droed Abertawe’n dychwelyd i’r ddinas heddiw gyda’i glwb newydd QPR.

Gadawodd Angel Rangel yr Elyrch dros yr haf ar ôl 11 o flynyddoedd, a hynny ar ôl i’r clwb ostwng o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth.

Chwaraeodd e mewn 374 o gemau, gan ddod yn gapten yn ystod ei dymor olaf.

Fe ddywedodd yr wythnos hon ei fod yn awyddus i aros gyda’r clwb a’i fod e wedi gwneud cais i gynnal trafodaethau i ymestyn ei gytundeb, ond na chafodd e ateb gan y clwb er iddo gynnig derbyn llai o arian er mwyn cael aros.

Cafodd e gynnig wedyn i symud i’r Unol Daleithiau, cyn penderfynu arwyddo cytundeb tymor byr gyda QPR, a fydd yn dod i ben ym mis Ionawr.

‘Gwas da a ffyddlon’

Yn ei erthygl yn rhaglen swyddogol y gêm rhwng Abertawe a QPR, dywed cadeirydd yr Elyrch, “Rydym hefyd yn croesawu yn ei ôl i SA1 was da a ffyddlon y clwb heddiw, er y bydd yn rhyfedd i ni oll ei weld e’n gwisgo bathodyn gwahanol.

“Rhoddodd Angel Rangel wasanaeth clodwiw i’n clwb, gan chwarae i ni am 11 o flynyddoedd – gan ennill dyrchafiad ddwy waith, Cwpan y Gynghrair a bod yn gapten ar y tîm yn ein buddugoliaeth gofiadwy yng Nghynghrair Europa yn Valencia.

“Mae’n wych gweld Angel yn parhau i chwarae ar y lefel uchaf sydd ar gael iddo fe, a dw i’n sicr y bydd y Jack Army yn rhoi’r gymeradwyaeth iddo y prynhawn yma y mae’n ei haeddu.”