Mae’r chwaraewr pêl-droed dros Gymru, David Brooks, a gafodd ei eni yn Lloegr, yn dweud na fydd yn gadael y crysau cochion er mwyn ymuno â thîm Lloegr.

Daw hyn ar ôl i Declan Rice o Weriniaeth Iwerddon gael ei hepgor o’r tîm a fydd yn herio Cymru nos Iau oherwydd ei fod yn dal i ystyried pa un a ddylai ymuno â Lloegr ai peidio.

Fel David Brooks, fe gafodd Declan Rice ei eni yn Lloegr, a chan fod y ddau ond wedi chwarae gemau cyfeillgar i’w gwledydd, mae dal hawl ganddyn nhw newid timoedd.

Ond mae’r chwaraewr 21 oed dros Gymru yn dweud yn gadarn na fydd yn symud, gan nad yw “troi yn ôl” yn opsiwn iddo.

“Cymru fydd hi yn wastad”

“Mae’n benderfyniad y mae’n rhaid i chwaraewyr ifanc fel Declan Rice a finnau ei wneud,” meddai David Brooks.

“Dw i ddim yn gwybod beth yw ei sefyllfa na beth mae e eisiau ei wneud felly dw i ddim yn medru rhoi sylw ar y mater.

“Ond i fi, Cymru fydd hi yn wastad a dw i’n ddiolchgar bod gen i’r cyfle hwnnw.”

“Dim troi’n ôl”

Bu David Brooks, a gafodd ei eni yn Warrington, ond sydd â mam o Langollen, yn chwarae i dîm Lloegr o dan 20 oed yn ystod Twrnamaint Toulon yn 2017.

Roedd hynny cyn iddo ymuno â charfan Cymru yn hwyrach yn y flwyddyn, ac mae bellach wedi ennill dau gap dros ei wlad mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc, Panama a Mecsico.

“Yn amlwg, rydych chi’n gwrando ar beth sydd gan eich teulu chi i ddweud ac mae yna ddylanwadau eraill ynghlwm hefyd,” meddai am ei benderfyniad i chwarae dros Gymru.

“Fe allech chi dderbyn yr holl gyngor yn y byd, ond os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth eich hunain, mae’n rhaid i chi wneud penderfyniad.

“Does dim troi’n ôl o hynny a dw i’n methu ag aros i wisgo crys Cymru unwaith eto.”