Met Caerdydd 4–1 Y Barri                                                               

Met Caerdydd fydd yn herio Derwyddon Cefn yn rownd derfynol gemau ail gyfle Ewropeaidd Uwch Gynghrair Cymru ar ôl iddynt chwalu’r Barri ar Gampws Cyncoed nos Sadwrn.

Sgoriodd y myfyrwyr dair gôl hanner cyntaf cyn ychwanegu un arall wedi’r egwyl wrth ennill y rownd gynderfynol yn gyfforddus.

Aeth y tîm cartref ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, Adam Roscrow yn gorffen yn daclus wedi pas berffaith Elliot Evans i’w lwybr.

Roedd Roscrow yn ei chanol hi eto wrth i Met ddyblu’r fantais bum munud cyn yr egwyl, yn creu ar y dde y tro hwn cyn i Will Evans droi a rhwydo yn y cwrt cosbi.

Ac roedd hi fwy neu lai drosodd dri munud yn ddiweddarach wedi i Callum Sainty benio cic rydd Elliot Evans i’w rwyd ei hun.

Roedd yn rhaid i’r Barri ymosod yn yr ail hanner a rhoddodd hynny’r cyfle i Met eu dal yn y pen arall. Ac wedi gwrthymosodiad chwim y daeth y bedwaredd gôl ddeunaw munud o’r diwedd, Roscrow yn codi’r bêl dros Joe Massaro am ei ail ef a phedwaredd ei dîm.

Roedd digon o amser ar ôl am gôl gysur i’r Barri wrth i Jonathan Hood rwydo o’r smotyn wedi llawiad  Matt Swindehurst, ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi.

Y myfyrwyr o Gaerdydd felly a fydd yn herio Derwyddon Cefn yn Wrecsam yr wythnos nesaf, gyda’r enillwyr yn cipio lle olaf Cymru yng Nghynghrair Ewropa’r tymor nesaf.

.

Met Caerdydd

Tîm: Fuller, Morgan, Lewis, Barnett (Baker 62’), Edwards, Corsby, E. Evans, McCarthy (Swinderhurst 45’), Roscrow (Spencer 82’), Lam, W. Evans

Goliau: Adam Roscrow 26’, 73’, Will Evans 40’, Callum Sainty [g.e.h.] 43’

Cerdyn Melyn: Roscrow 60’

.

Y Barri

Tîm: Massaro, Southam-Hales, Hugh, Cooper, Watkins, Saddler, Sainty, Cotterill, Hood, Fahiya (Newman 59’), McLaggon

Gôl: Jonathan Hood [c.o.s.] 89’

Cardiau Melyn: Fahiya 56′, Hood 86’, Cooper 90+2′

.

Torf: 665