Bournemouth 1–0 Abertawe                                                         

Mae trafferthion Abertawe tua gwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr yn parhau wedi iddynt golli oddi cartref yn Bournemouth brynhawn Sadwrn.

Fe all yr Elyrch orffen y dydd yn y tri isaf wedi i gôl Ryan Fraser eu trechu ar Dean Court.

Bournemouth a ddechreuodd y gêm orau ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen wyth munud cyn yr egwyl.

Roedd mur amddiffynnol Abertawe yn aros am ergyd o gic rydd Andrew Surman ar gornel y cwrt cosbi ond chwaraeodd ef y bêl i Ryan Fraser a gwyrodd ei ergyd yntau heibio Lukasz Fabianski ac i gefn y rhwyd.

Cafodd Jordan Ayew gyfle gwych i unioni pethau cyn hanner amser ond anelodd ergyd wyllt ym mhell dros y trawst wedi cyd-chwarae dy gyda’i frawd, Andre.

Nid oedd yr Elyrch fawr gwell wedi’r egwyl ac fe ddaliodd y tîm cartref eu gafael ar y tri phwynt yn gymharol gyfforddus.

Mae Abertawe yn aros yn yr ail safle ar bymtheg yn y tabl am y tro ond fe allant lithro i’r tri isaf os gaiff Southampton bwynt neu fwy yn erbyn Everton ar Goodison yn y gêm hwyr. Mae tynged tîm Carlos Carvalhal yn aros yn nwylo eu hunain serch hynny gan eu bod yn wynebu Southampton eu hunain nos Fawrth.

.

Bournemouth

Tîm: Begovic, Francis, S. Cook, Ake, Fraser, L. Cook, Surman, Daniels, King(Mousset 90+1’), Wilson (Mings 90+4’), Pugh (Gosling 78’)

Gôl: Fraser 37’

Cerdyn Melyn: King 51’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, van der Hoorn (King 72’), Fernandez, Mawson, Roberts, Ki Sung-yueng (Narsingh 78’), Carroll, Olsson, Dyer (Abraham 59’), J. Ayew, A. Ayew

Cardiau Melyn: Olsson 36’, van der Hoorn 58’, Mawson 70’, King 82’

.

Torf: 10,820