Abertawe 0–1 Chelsea                                                                     

Mae trafferthion Abertawe tua gwaelod Uwch Gynghrair Lloegr yn parhau wedi iddynt golli gartref yn erbyn Chelsea nos Sadwrn.

Un pwynt sydd yn eu gwahanu hwy a’r tri isaf bellach wedi i gôl gynnar Cesc Fabregas eu trechu ar y Liberty.

Pedwar munud yn unig a oedd ar y cloc pan aeth yr ymwelwyr ar y blaen, Fabregas yn crymanu’r bêl i’r gornel uchaf wedi pas wrthol Eden Hazard.

Chelsea a oedd y tîm gorau am gyfnodau hir wedi hynny ond fe wnaeth Abertawe orffen y gêm yn gryf.

Prin a oedd cyfleoedd clir i’r tîm cartref serch hynny gydag Andre Ayew a Tom Carroll yn dod agosaf ond y ddau yn crymanu eu cynigion heibio’r postyn.

Mae’r canlyniad hwn ynghyd â thri phwynt i Southampton yn erbyn Bornemouth yn golygu mai pwynt yn unig sydd bellach yn gwahanu’r ddau dîm gyda thair gêm yn weddill, gan gynnwys un yn erbyn ei gilydd mewn deg diwrnod.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, van der Hoorn, Mawson, Roberts (Carroll 63’), Ki Sung-yueng, King (Dyer 58’), Olsson (Routledge 81’), A. Ayew, Clucas, J. Ayew

Cerdyn Melyn: A. Ayew 15’

.

Chelsea

Tîm: Courtois, Azpilicueta, Cahill, Rudiger, Moses, Fabregas (Pedro 81’), Kante, Bakayoko, Emerson, Hazard (Willian 81’), Giroud (Morata 85’)

Gôl: Fabregas 4’

Cerdyn Melyn: Moses 30’

.

Torf: 20,900