Eastleigh 1–1 Wrecsam                                                                    

Llithrodd Wrecsam i’r chweched safle yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr gyda gêm gyfartal yn erbyn deg dyn Eastleigh yn Ten Acres brynhawn Sadwrn.

Ar ôl arwain am ran helaeth o’r gêm, fe ildiodd y Dreigiau yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Aeth Wrecsam ar y blaen wedi ugain munud, Scott Quigley’n cael ei lorio yn y cwrt cosbi cyn codi ar ei draed i sgorio o’r smotyn.

Aeth Eastleigh i lawr i ddeg dyn hanner ffordd trwy’r ail hanner wrth i Andrew Boyce dderbyn ei ail gerdyn melyn yn dilyn llawiad.

Wnaeth y tîm cartref ddim rhoi’r ffidl yn y to serch hynny ac fe gawsant bwynt am eu trafferth diolch i gôl flêr Ryan Cresswell wedi cic gornel yn y pedwerydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae Wrecsam yn llithro i’r chweched safle yn y tabl gyda phedair gêm yn weddill. Mae eu gobeithion o gyrraedd y tri uchaf ac osgoi gêm ychwanegol yn y gemau ail gyfle yn dechrau diflannu. Yn wir, dim ond dau bwynt sydd yn eu gwahanu hwy a Dover yn yr wythfed safle bellach.

.

Eastleigh

Tîm: Stack, Cresswell, Boyce, Broom, Wood (Green 82’), Togwell (Williamson 65’), Yeates, Miley, Matthews, McCallum, Zebroski (Johnson 71’)

Gôl: Cresswell 90+4’

Cardiau Melyn: Boyce 22’, 68’

Cerdyn Coch: Boyce 68’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Smith, Rutherford, Raven, Pearson, Wedgbury, Kelly (Deverdics 67’), Wright, Holroyd (Ainge 17’), Quigley (Carrington 90’)

Gôl: Quigley [c.o.s.] 20’

Cerdyn Melyn: Ainge 45’

.

Torf: 1,765