Caerdydd 0–1 Wolves                                                                      

Methodd Caerdydd ddwy gic o’r smotyn wrth iddynt golli yn erbyn Wolves mewn diweddglo dramatig yn Stadiwm y Ddinas nos Wener.

Yr ymwelwyr aeth â hi yn y frwydr ar frig y Bencampwriaeth wedi i Gary Madine a Junior Hoilett fethu cic o’r smotyn yr un i’r Adar Gleision yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm!

Wedi hanner cyntaf tynn heb lawer o gyfleoedd clir, fe fywiogodd pethau’n fuan wedi’r egwyl gyda Leo Bonatini’n taro’r postyn o ongl dynn i Wolves.

Daeth unig gôl y gêm i’r ymwelwyr hanner ffordd trwy’r ail hanner pan grymanodd Ruben Neves gic rydd o safon i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain.

Cafodd Helder Costa gyfle da i ddiogelu’r tri phwynt bedwar munud o’r diwedd ond anelodd ei ergyd heibio’r postyn wedi rhediad unigol da.

Rhoddodd hynny lygedyn o obaith i Gaerdydd ac fe ddylai’r Adar Gleision fod wedi cipio pwynt o leiaf yn yr amser brifo ar ddiwedd y gêm.

Roedd pedwar munud wedi eu chwarae dros y naw deg pan arbedodd John Ruddy gic o’r smotyn Madine yn dilyn trosedd Conor Coady ar Anthony Pilkington.

Yna, yn y chweched munud ychwanegol fe darodd Hoilett y trawst o ddeuddeg llath wedi trosedd Ivan Cavaleio ar Aron Gunnarsson.

Daw rhediad hir heb golli Caerdydd i ben felly a bydd yn rhaid iddynt gadw golwg dros eu hysgwydd ar Fulham ac Aston Villa os am aros yn yr ail safle dros chwe gêm olaf y tymor.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Bamba, Bennett, Wildschut (Madine 71’), Paterson (Mendez-Laing 51’), Gunnarsson, Bryson, Zohore (Pilkington 84’), Hoilett

Cardiau Melyn: Peltier 62’, Morrison 66’

.

Wolves

Tîm: Ruddy, Bennett, Coady, Boly, Doherty, Saiss, Neves, Douglas, Jota (Cavaleiro 67’), Afobe (N’Diaye 78’), Bonatini (Costa 58’)

Gôl: Neves 67’

Cardiau Melyn: Saiss 75, Costa 89’

.

Torf: 29,317