Wrecsam 0–1 Boreham Wood                                                      

Llithrodd Wrecsam allan o dri uchaf Cynghrair Genedlaethol Lloegr wrth golli gartref yn erbyn Boreham Wood ar y Cae Ras brynhawn Llun.

Neidiodd yr ymwelwyr dros y Dreigiau yn y tabl wedi i Bruno Andrade sgorio unig gôl y prynhawn o’r smotyn yn gynnar yn y gêm.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond deg munud, Andrade’n curo Chris Dunn o ddeuddeg llath wedi trosedd gan Manny Smith.

Aeth tasg Wrecsam yn un anoddach yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Kevin Roberts gael ei anfon oddi ar y cae.

Daliodd yr ymwelwyr eu gafael ar y lechen lân wedi hynny i sicrhau’r tri phwynt.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Boreham Wood dros Wrecsam i’r trydydd safle yn y tabl. Pwysigrwydd hynny yw fod y timau sydd yn gorffen yn ail ac yn drydydd yn chwarae un gêm yn llai yn y gemau ail gyfle.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Roberts, Franks (Ainge 54’), Pearson, Smith, Wedgbury, Kelly, Boden (Raven 48’), Holroyd, Quigley (Mackreth 74’)

Cardiau Melyn: Wedgbury 17’, Pearson 27’, Jennings 36’, Smith 60’, Raven 70’

Cerdyn Coch: Roberts 47’

.

Boreham Wood

Tîm: G. Smith, K. Smith, Turley, Champion, Stephens, Woodards, Shakes, Rickertts, Murtagh, Carvalho Andrade (Folivi 84’), Ferrier (Quigley 90+4’)

Gôl: Carvalho Andrade [c.o.s.] 10’

Cardiau Melyn: Murtagh 41’, Rickertts 45’

.

Torf: 4,746