Bromley 1–1 Wrecsam                                                                     

Mae gobeithio Wrecsam o orffen ar frig Cynghrair Genedlaethol Lloegr fwy neu lai ar ben yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn deg dyn Bromley ar Hayes Lane brynhawn Gwener.

Bu rhaid i’r Dreigiau fodloni ar bwynt yn unig er i’r tîm cartref chwarae hanner y gêm gydag un dyn yn llai.

Ni chafwyd goliau yn yr hanner cyntaf ond gorffennodd Bromley’r 45 munud agoriadol gyda deg dyn wedi cerdyn coch i gyn amddiffynnwr Caerdydd, Roger Johnson, wedi trosedd wael ar Sam Wedgbury.

Manteisiodd Wrecsam yn erbyn y deg dyn wedi dim ond saith munud o’r ail hanner wrth i James Jennings agor y sgorio gyda pheniad o gic rydd.

Yn ôl y daeth y tîm cartref serch hynny, gyda Brandon Hanlan yn unioni pethau o’r smotyn hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Wrecsam a gafodd y gorau o’r gêm wedi hynny ond aros yn gyfartal a wnaeth hi. Mae’r canlyniad yn rhoi Wrecsam yn drydydd yn y tabl ond mae deg pwynt bellach yn eu gwahanu hwy a Macclesfield ar y brig gyda dim ond chwe gêm yn weddill.

.

Bromley

Tîm: Gregory, Woolfenden, R. Johnson, Raymond (Rees 64’), Sutherland, Sterling, Holland, Mekki, Higgs, Porter (Bugiel 57’), Hanlan (D. Johnson 90+2’)

Gôl: Hanlan [c.o.s.] 66’

Cardiau Melyn: Raymond 51’ Mekki 90+2’, Rees 90+3’

Cerdyn Coch: R. Johnson 44’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Roberts, Jennings, Deverdics (Boden 74’), Pearson, Smith, Wedgbury, Rutherford (Franks 74’), Kelly, Holroyd, Quigley (Ainge 77’)

Gôl: Jennings 52’

Cerdyn Melyn: Wedgbury 76’

.

Torf: i ddilyn