Huddersfield 0–0 Abertawe                                                           

Cafodd Abertawe gêm gyfartal yn erbyn Huddersfield yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sadwrn er gwaethaf y ffaith iddynt chwarae wyth deg munud o’r gêm yn Stadiwm John Smith’s gyda deg dyn.

Anfonwyd Jordan Ayew oddi ar y cae wedi dim ond deg munud ond fe ddaliodd yr Elyrch eu gafael i gipio pwynt gyda gêm gyfartal ddi sgôr.

Tacl uchel ar Jonathan Hogg a arweiniodd at gawod gynnar Jordan Ayew a bu rhaid i’w gyd chwaraewyr amddiffyn yn arwrol wedi hynny wrth i Huddersfield fwynhau 80% o’r meddiant.

Y tîm cartref, yn naturiol felly, a gafodd y cyfleoedd gorau ond gwnaeth Lukasz Fabianski arbediad gwych i atal foli Steve Mounie cyn i Tom Ince benio yn erbyn y postyn yr eiliadau olaf.

Mae’r Elyrch yn llithro un lle i’r pedwerydd safle ar ddeg yn y tabl er gwaethaf y pwynt, oherwydd buddugoliaeth Newcastle yn erbyn Southampton. Ond dyma ganlyniad digon derbyniol i dîm Carlos Carvalhal o dan yr amgylchiadau.

.

Huddersfield

Tîm: Lossl, Hadergjonaj, Jorgansen, Schindler, Malone, Hogg, Mooy (Williams 69’), Ince, Pritchard (Qnaner 65’), van La Parra (Depoitre 78’), Mounie

Cerdyn Melyn: Hadergjonaj 70’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, can der Hoorn, Fernandez, Mawson, Naughton, King, Ki Sung-yueng, Clucas, Olsson, J. Ayew, A. Ayew (Abraham 73’)

Cardiau Melyn: Mawson 19’, Olsson 50’, A. Ayew 63’

Cerdyn Coch: J. Ayew 11’

.

Torf: 23,567