Caerdydd 3–2 Birmingham                                                             

Mae Caerdydd gam yn nes at sichrau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl curo Birmingham yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Mae’r Adar Gleision yn aros bum pwynt yn glir yn yr ail safle diolch i goliau Mendez-Laing, Bryson a Paterson yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Aeth Caerdydd ar y blaen wedi dim ond deuddeg munud gydag ergyd isel gadarn Nathaniel Mendez-Laing cyn i Craig Bryson ddyblu’r fantais hanner ffordd trwy’r hanner, yn gorffen yn daclus o groesiad Joe Bennett.

Croesiad gan Bennett a greodd drydedd gôl yr Adar Gleision hefyd wrth i Callum Paterson rwydo yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner.

Rhoddodd gôl Craig Gardner lygedyn o obaith i Birmingham yn gynnar yn yr ail gyfnod, y chwaraewr canol cae profiadol yn sgorio o’r smotyn wedi trosedd ar Harlee Dean yn y cwrt cosbi.

Fe wnaeth Maxime Colin rywdo ail gelfydd i’r ymwelwyr hefyd ond roedd hynny’n ddwfn yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm ac fe ddaliodd Caerdydd eu gafael i sicrhau buddugoliaeth yn yr eiliadau olaf.

Mae’r tri phwynt yn eu rhoi bum pwynt yn glir o Fulham, sydd bellach yn drydydd. Mae’r tîm ar y brig, Wolves, yn ymweld ag Aston Villa, sydd yn bedwerydd, yng ngêm hwyr y Bencampwriaeth nos Sadwrn.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier (Morrison 74’), Ecuele Manga, Bamba, Bennett, Paterson, Grujic, Bryson (Damour 37’), Mendez-Laing (Halford 81’), Zohore, Hoilett

Goliau: Mendez-Laing 12’, Bryson 23’, Paterson 45+3’

Cardiau Melyn: Bamba 58’, Etheridge 78’

.

Birmingham

Tîm: Stockdale, Jenkinson (Roberts 45’), Morrison, Dean, Colin, Jota, Kietenbeld, Gardner, Maghoma (Boga 79’), Jutkiewicz (Adams 69’), Gallagher

Goliau: Gardner [c.o.s.] 54’, Colin 90+5’

Cardiau Melyn: Dean 68’, Morrison 88’

.

Torf: 19,364