Mae’r brodyr Andre a Jordan Ayew wedi cael cryn ganmoliaeth ar ôl i dîm pêl-droed Abertawe guro West Ham o 4-1 yn Stadiwm Liberty brynhawn dydd Sadwrn.

Mae’r Elyrch yn drydydd ar ddeg yn nhabl Uwch Gynghrair Lloegr yn dilyn eu buddugoliaeth fwyaf y tymor hwn.

Chwaraeodd Andre ran mewn tair allan o’r pedair gôl, ac fe rwydodd Jordan o’r smotyn wrth iddo sgorio’i ddegfed gôl yn y gynghrair y tymor hwn.

Diwrnod i’r brenin

Ymhlith y rhai sydd wedi eu canmol mae chwaraewr canol cae Cymru a’r Elyrch, Andy King, sydd ar fenthyg o Gaerlŷr tan ddiwedd y tymor.

“Roedden nhw’n wych, wnaethon nhw ddim stopio rhedeg,” meddai.

“Mae gan Andre funudau y tu ôl iddo fe wrth ddechrau [gêm] am y tro cyntaf, felly dw i’n sicr y bydd e’n gwella.”

Ymunodd Andre Ayew ag Abertawe am yr ail waith ym mis Ionawr, a hynny o West Ham am £18 miliwn. Fe gynorthwyodd e gôl Ki Sung-yueng ar ôl wyth munud cyn cynorthwyo King ac ennill y gic o’r smotyn i’w frawd.

Pwynt i’w brofi

Ychwanegodd yr amddiffynnwr canol Mike van der Hoorn, sgoriwr un arall o goliau’r Elyrch: “Roedd Andre eisiau dangos rhywbeth yn erbyn ei hen dîm.

“Roedd hynny’n dda i ni ac fe wnaeth helpu’r ffordd yr oedd y brodyr wedi rhoi egni i’n hymosod ni.

“Fel unigolion maen nhw’n chwaraewyr o’r radd flaenaf, ond gyda’i gilydd maen nhw wir yn cysylltu.”