Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal, wedi canmol ei amddiffynwyr ar drothwy taith i herio Brighton yn Uwch Gynghrair Lloegr yfory.

Dim ond naw gôl maen nhw wedi’u hilio yn y deuddeg gêm ers i’r gŵr o Bortiwgal olynu Paul Clement. Cyn hynny, roedden nhw wedi ildio 28 gôl mewn 15 o gemau.

Mae Abertawe’n unfed ar bymtheg ar hyn o bryd, ac fe allai buddugoliaeth eu codi’n nes at ganol y tabl ac yn nes at ddiogelwch am dymor arall.

Ac yntau’n amddiffynnwr canol pan oedd yn chwarae, mae Carlos Carvalhal wedi dweud ei fod e’n mwynhau gweithio gydag amddiffynwyr, ond yn cyfaddef nad oedd e’n gystal chwaraewr â’r rhai sydd ganddo fe yn Abertawe.

“Pe bawn i’n hyfforddi fy hunan, fyddwn i byth yn dewis fy hun, galla i ddweud hynny. Byth. Do’n i erioed wedi chwarae’r gêm oedd gyda fi yn fy mhen.

“Ro’n i’n amddiffynnwr canol, ond doedd gyda fi ddim y gallu i chwarae’r gêm oedd yn fy mhen.”

Partneriaethau

 Ar y cyfan y tymor hwn, Alfie Mawson a Mike van der Hoorn sydd wedi bod yn chwarae yng nghanol yr amddiffyn, a Federico Fernandez wedi chwarae pan fo’n holliach. Ac fe fu’r triawd yn chwarae gyda’i gilydd yn y cefn pan fo angen mwy o adnoddau amddiffynnol yn erbyn y timau mwy ymosodol.

Ac mae Carlos Carvalhal yn dweud ei fod yn hapus gyda’r uned.

“Dw i’n hapus iawn ond hefyd yn y gemau cwpan, ry’n ni weithiau’n rhoi [Kyle] Naughton gyda [Kyle] Bartley ac Alfie [Mawson]. Fe wnaethon nhw’n dda iawn.

“Mae’r tri yn gwneud yn dda iawn. Dw i’n hapus gyda nhw i gyd. Mae’r cyswllt rhyngddyn nhw’n dibynnu ar yr ymarferion, ond does gyda ni ddim problemau gyda’r un ohonyn nhw.”

Alfie Mawson

 Ar ôl gwella o anaf i’w ben-glin a gafodd yn y gêm gwpan yn erbyn Sheffield Wednesday, fe fydd Alfie Mawson yn chwarae gêm rhif 51 yn olynol – mwy nag unrhyw chwaraewr arall yn yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd.

Yn ôl Carlos Carvalhal, mae ei sgiliau cyfathrebu’n ei godi uwchlaw nifer o’i wrthwynebwyr yn y gynghrair.

“Os ydych chi’n gofyn i fi, mae e’n un sy’n cyfathrebu gydag eraill o ran beth mae e’n gwneud, ac mae hynny’n bwysig pan ydych chi’n chwarae yn y cefn. Mae’n bwysig oherwydd mae e’n edrych ar y cae o’r cefn.”

Ychwanegodd fod ei holl amddiffynwyr yn “aeddfedu” gyda phrofiad.

“Mae’n bwysig oherwydd os ydych chi’n adeiladu tîm sy’n dda yn ymosodol, rhaid i chi fod yn gadarn yn y cefn hefyd. Os nad ydych chi’n gadarn yn y cefn, allwch chi ddim bod yn drefnus yn ymosodol. Mae cyswllt rhwng popeth.”