Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal yn credu bod “pennau’r chwaraewyr uwchben y dŵr” yn Uwch Gynghrair Lloegr erbyn hyn.

Ond mae’n mynnu, er gwaetha’r rhediad o saith gêm ddi-guro yn y gynghrair, fod y “siarcod o gwmpas o hyd”.

Roedd y rheolwr yn siarad ar drothwy’r gêm fawr yn erbyn Burnley yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn, ddyddiau’n unig ar ôl rhoi crasfa o 8-1 i Notts County yng Nghwpan FA Lloegr.

Mae’r fuddugoliaeth honno wedi rhoi hyder i’r chwaraewyr i barhau i ennill, meddai.

“Y peth pwysicaf oedd symud ymlaen i’r cam nesaf. Roedd yr wyth gôl yn bwysig ond roedd ein deinameg yn dda iawn. Roedd y pethau roedden ni wedi’u paratoi wedi gweithio’n dda iawn a phan rydych chi’n teimlo bod gyda chi syniad, a bod y chwaraewyr yn datblygu ac yn deall y syniad, ry’n ni’n hapus iawn.

Dywedodd fod y tîm “wedi gwneud camgymeriadau” yn erbyn Notts County, “ond ry’n ni’n gwneud llai o gamgymeriadau nag yr oedden ni dair neu bedair wythnos yn ôl.”

‘Mwy o siawns erbyn hyn’

“Mae gyda ni fwy o siawns erbyn hyn, ry’n ni mewn sefyllfa gwbwl wahanol. Roedden ni ar y gwaelod ac ymhell oddi wrth y gweddill… ond nawr, dydyn ni ddim o dan y dŵr.

“Rydych chi’n tynnu’ch pen allan a nawr, rydyn ni’n anadlu aer ffres, ond mae’r siarcod o gwmpas ac maen nhw’n gallu eich tynnu chi i lawr eto. Rhaid i ni sicrhau nad yw’r pethau hyn yn digwydd fel nad ydyn ni’n cwympo o dan y dŵr unwaith eto.”

Mae cynnydd y tîm, meddai, “wedi digwydd yn gynt nag yr oedden ni wedi’i ddisgwyl, ond fe ddaethon ni yma i wneud hyn. Dyna’n gwaith ni.”

Serch hynny, mae’n cyfaddef fod tipyn o waith i’w wneud o hyd i aros yn yr Uwch Gynghrair, wrth i’r Elyrch ddechrau’r gêm yn ail ar bymtheg, un safle uwchlaw’r safleoedd disgyn.

“Does neb yn gwybod lle fyddwn ni ymhen wythnos neu ddwy, gall llawer o bethau newid.”

Andre Ayew

Yn y cyfamser, fe allai Andre Ayew chwarae ddydd Sadwrn, a hynny am y tro cyntaf ers dychwelyd i Abertawe o West Ham am £18m ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo ar Ionawr 31.

Fe adawodd am West Ham am 2016 ar ôl sgorio 15 o goliau yn yr Uwch Gynghrair tra bod Garry Monk wrth y llyw.

“Fe edrychais i ar opsiynau eraill, ond ro’n i’n teimlo nad oedd fy ngwaith i yma ar ben.

“Doedd y penderfyniad ddim yn un anodd. Pan ddaeth y clwb ata’i a dweud bod ganddyn nhw ddiddordeb, fe gymerais i amser, edrychais i ar yr opsiynau ac roedd gyda fi ambell opsiwn yn Lloegr a’r tu allan.

“Fe wnes i adael Abertawe gyda theimlad braf ac roedd gyda fi berthynas anhygoel gyda’r cefnogwyr. Ro’n i’n teimlo bod gan y clwb yr hyn mae’n ei gymryd i aros i fyny, a galla i ychwanegu rhywbeth at hynny.

 

“Byddwn ni’n ennill rhai ac yn colli rhai, ond rhaid i ni barhau i frwydro’n galed.”