Tottenham Hotspur 2–0 Casnewydd                                          

Mae Casnewydd allan o’r Cwpan FA ar ôl colli yn erbyn Spurs yn y bedwaredd rownd yn Wembley nos Fercher.

Wedi gêm gyfartal yn erbyn y cewri o’r Uwch Gynghrair ar Rodney Parade wythnos a hanner yn ôl, doedd dim canlyniad cofiadwy arall i’r Cymry wrth iddynt golli’r gêm ail chwarae yn Llundain.

Dechreuodd Casnewydd yn addawol ond y tîm cartref a aeth ar y blaen gyda gôl ffodus ugain munud cyn yr egwyl, croesiad Moussa Sissoko’n gwyro oddi ar Dan Butler i’w rwyd ei hun.

Dyblodd Spurs eu mantais wyth munud yn ddiweddarach pan orffennodd Erik Lamela’n daclus wedi gwaith creu Son Heung-min.

Tottenham a gafodd y gorau o’r ail hanner hefyd a gwastraffodd Fernando Llorente sawl cyfle da i ymestyn y fantais cyn i Dele Alli daro’r trawst i’r tîm cartref hefyd.

Daeth cyfle gorau Casnewydd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm ond llwyddodd Michel Vorm i atal Padraig Amond rhag rhwydo gôl gysur gofiadwy.

.

Tottenham Hotspur

Tîm: Vorm, Aurier, Foyth, Alderweireld, Rose (Walkers-Peters 86’), Wanyama (Alli 78’), Winks, Sissoko, Lamela, Son Heung-min (Eriksen 61’), Llorente

Goliau: Butler [g.e.h.] 26’, Lamela 34’

Cerdyn Melyn: Wanyama 8’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe (McCoulsky 67’), White (O’Brien 77’), Demetriou, Butler, Willmott, Tozer (Dolan 59’), Labadie, Bennett, Nouble, Amond

.

Torf: 38,947