Abertawe 8–1 Notts County                                                          

Mae Abertawe ym mhumed rownd y Cwpan FA ar ôl trechu Notts County ar yr ail gyfle yn y bedwaredd rownd nos Fawrth.

Wedi gêm gyfartal ar Meadow Lane wythnos a hanner yn ôl, fe gafodd yr Elyrch hi’n llawer haws ar y Liberty gan rwydo wyth gôl yn erbyn y tîm o’r Ail Adran.

Agorodd Tammy Abraham y sgorio wedi deunaw munud, yn rhwydo wrth y postyn cyntaf o groesiad Luciano Narsingh.

Creodd Abraham yr ail i Nathan Dyer funud yn ddiweddarach cyn i Dyer sgubo’i ail ef a thrydedd ei dîm i gefn y rhwyd o ochr y cwrt cosbi wedi hanner awr.

Cafodd yr ymwelwyr eu cyfnod gorau wedi hynny gan sgorio gôl dda eu hunain wrth i Noor Husin grymanu’r bêl i’r gornel uchaf o ugain llath.

Adferodd yr Elyrch eu tair gôl o fantais cyn yr egwyl serch hynny wrth i Narsingh greu un arall ar y dde i Abraham yn y canol.

Parhau i lwyr reoli a wnaeth y tîm cartref yn yr ail hanner gyda Kyle Naughton a Wayne Routledge yn ychwanegu’r bumed a’r chweched yn y chwarter awr cyntaf.

Y seithfed gôl a oedd un o’r goreuon wrth i Tom Carroll grymanu un i’r gornel uchaf wedi cyd chwarae da gyda Routledge.

Roedd digon o amser ar ôl i’r Cymro ifanc oddi ar y fainc, Daniel James, i sgorio ei gôl gyntaf yn ei ymddangosiad cyntaf i’r tîm cyntaf, yn gorffen yn daclus ar y cynnig cyntaf o ochr y cwrt cosbi.

Taith i Hillsborough sydd yn aros Abertawe yn y bumed rownd, i wynebu cyn glwb Carlos Carvalhal, Seffield Wednesday.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Naughton, van der Hoorn (Maric 78’), Bartley, Roberts, Narsingh, Carroll, Clucas (Ki Sung-yueng 45’), Routledge, Dyer(James 62’), Abraham

Goliau: Abraham 18’, 45+3’, Dyer 20’, 30’, Naughton 53’, Routledge 57’, Carroll 65’, James 82’

Cerdyn Melyn: Clucas 41’

.

Notts County

Tîm: colin, Hunt, Duffy, Brisley, Dickinson, Grant, Virtue-Thick, Husin (Milsom 62’), Hawkridge, Alessandra (Forte 62’), Stead (Smith 65’)

Gôl: Husin 35’

Cerdyn Melyn: Virtue-Thick 90+1’

.

Torf: 7,822