Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal, yn mynnu mai aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yw’r flaenoriaeth ar drothwy’r gêm ail gyfle yn erbyn Notts County ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr heno (nos Fawrth).

Ond fe fydd e’n “parchu” y gêm drwy ddewis tîm cryf, meddai, er gwaethaf llu o anafiadau a nifer o gemau pwysig ar y gorwel wrth i’r Elyrch barhau i frwydro i aros yn yr adran uchaf.

Daw’r Saeson i Stadiwm Liberty ar ôl cael gêm gyfartal 1-1 ym Meadow Lane. Luciano Narsingh roddodd y Cymry ar y blaen cyn i Jon Stead achub y gêm i Notts County.

Ers y gêm honno, mae’r Elyrch wedi curo Arsenal ac wedi cael gêm gyfartal yn erbyn Caerlŷr, maen nhw wedi codi oddi ar waelod y tabl ac yn ddi-guro mewn saith gêm.

Ond fe ddaeth newyddion drwg yr wythnos hon, gyda chadarnhad y bydd yr ymosodwr Wilfried Bony a’r chwaraewr canol cae Leroy Fer allan am weddill y tymor yn sgil anafiadau.

A dydi’r ddau chwaraewr newydd, Andy King nac Andre Ayew, ddim ar gael ar gyfer y gêm oherwydd rheolau’r gystadleuaeth.

‘Ennill’

“Fe fyddwn ni’n ceisio ennill y gêm hon,” meddai Carlos Carvalhal. “Wnawn ni ddim cymryd risg o ran unrhyw chwaraewr sydd â phoen neu’n sy’n wynebu’r risg o gael anaf.

“Ond byddwn yn dewis tîm cryf. Fel dywedais i cyn y gêm yn erbyn Wolves (yn y drydedd rownd), a chyn y gêm gyntaf yn erbyn Notts County, ein prif gystadleuaeth yw’r Uwch Gynghrair.

“Pe baech chi’n rhoi’r dewis i fi rhwng aros i fyny ac ennill y gwpan, wrth gwrs y byddwn i’n dewis aros i fyny.

“Ond r’yn ni’n hapus i chwarae’r gemau hyn yn y Cwpan. R’yn ni’n deall mawredd y gystadleuaeth hon. Rhaid i ni barchu hynny, a rhaid i ni barchu Notts County hefyd.

“Fydd hi ddim yn gêm hawdd, ond fe wnawn ni frwydro i gyrraedd y rownd nesaf.”