Guiseley 0–2 Wrecsam                                                                    

Cododd Wrecsam i frig tabl Cynghrair Genedlaethol Lloegr gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Guiseley ar Barc Nethermoor brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Chris Holroyd yr ymwelwyr o ogledd Cymru ar y blaen wedi chwarter awr ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Peniodd Shaun Pearson yr ail ugain munud o’r diwedd ac roedd y tri phwynt yn ddiogel i’r Dreigiau.

Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam i frig y tabl gan nad oedd Macclesfield yn chwarae’r penwythnos hwn.

.

Guiseley

Tîm: Coddington, Southwell (Liburd 74’), McFadzean, Harvey, Lenighan, Odejayi (Fondop-Talom 60’), St Ledger, Crookes, Roberts (Haworth 74’), Flowers, Nirennold

Cardiau Melyn: Lenigham 34’, Nirennold 54’, McFadzean 56’, Harvey 61’, Flowers 83’, Haworth 90+3’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Smith, Deverdics, Wedgbury, Pearson, Holroyd (Mackreth 89’), Rutherford, Kelly, Roberts, Boden

Goliau: Holroyd 16’, Pearson 71’

Melyn: Holroyd 45’, Wedgbury

.

Torf: 1,338