Mae Abertawe wedi llwyddo i arwyddo dau chwaraewr newydd ar y funud ola’, gan olygu y bydd dau frawd yn arwain yr ymosod.

Yn ôl y disgwyl, mae’r Elyrch wedi arwyddo’r ymosodwr Andre Ayew o West Ham United am y ffi ucha’ yn hanes y clwb – tua £18 miliwn.

Fe fydd yn dychwelyd i’r Liberty lle’r oedd yn chwarae hyd at ei werthu yn 2016 ac fe fydd yn ymuno gyda’i frawd, Jordan, sydd yn cael cyfnod da iawn yn y tîm ar hyn o bryd.

Fe gyhoeddodd Abertawe hefyd eu bod wedi sicrhau cytyundeb benthyciad ar gyfer chwaraewr canol cae Leicester City a Chymru, Andy King, a hynny tan ddiwedd y tymor.

‘Gwelliant rhyfeddol’

Er bod Abertawe’n ôl yn y tri isa’ yn yr Uwch Gynghrair ar ôl i Stoke City gael gêm gyfartal neithiwr, maen nhw wedi dechrau gwella’n rhyfeddol yn ystod y pythefnos diwetha’ gan guro Lerpwl ac Arsenal, dau o dimau gorau’r adran.

Un o’r sêr yw Jordan Ayew sydd wedi bod ychydig yng nghysgod ei frawd ond gobaith yr Elyrch yw y byddan nhw’n creu partneriaeth lwyddiannus yn y blaen.

Doedd y ddau ddim wedi chwarae gyda’i gilydd yn Abertawe cyn hyn ac mae disgwyl y bydd Andy King, sy’n chwaraewr canol cae ymosodol, hefyd yn ychwanegu at record sgorio wael y clwb.