Mae adroddiadau bod yr ymosodwr Andre Ayew ar fin dychwelyd i Glwb Pêl-droed Abertawe o West Ham.

Ond mae’r Elyrch yn awyddus i sicrhau nad yw’r amddiffynnwr canol Alfie Mawson na’r chwaraewr canol cae Ki Sung-yueng yn symud i’r cyfeiriad arall.

 

Mae’r ffenstr drosglwyddo yn cau am 11 o’r gloch heno (Ionawr 31).

Doedd Andre Ayew ddim yng ngharfan West Ham a heriodd Crystal Palace neithiwr wrth i’r dyfalu am ei ddyfodol barhau. Mae rheolwr West Ham, David Moyes, yn dweud fod y clwb yn ystyried cynnig gan Abertawe ar hyn o bryd.

Ond mae’n awyddus i arwyddo chwaraewyr newydd yn ei le cyn cau pen y mwdwl ar y trosglwyddiad.

Y gred yw y gallai’r Elyrch orfod talu £18 miliwn i ddenu Ayew yn ei ôl i Abertawe, gan dorri eu record am drosglwyddiad.

Mae West Ham eisoes wedi gwrthod cynnig o £14m gan yr Elyrch, ac mae rheolwr Abertawe, Carlos Carvalhal, eisoes wedi atal un ymgais gan West Ham i gynnwys Ki Sung-yueng yn y trosglwyddiad.

Symudodd Andre Ayew i West Ham o Abertawe yn 2016 am £20.5m ond mae wedi dioddef nifer o anafiadau ers hynny.

Sgoriodd 12 gôl mewn 34 o gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr yn ystod ei gyfnod cyntaf gyda’r clwb yn 2015-16.