Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal yn mynnu na fydd chwarae gêm ychwanegol yng Nghwpan FA Lloegr yn niweidio gobeithion ei dîm o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr am dymor arall.

Mae Abertawe ar waelod y gynghrair ar hyn o bryd, ac mae ganddyn nhw gêm fawr yn erbyn Arsenal (Ionawr 30) cyn mis Chwefror prysur gyda gemau yn erbyn Caerlŷr (Chwefror 3), Burnley (Chwefror 10) a Brighton (Chwefror 24).

Ond bellach, maen nhw’n gwybod y bydd rhaid iddyn nhw ail-chwarae’r gêm yn erbyn Notts County yn Stadiwm Liberty yn dilyn gêm gyfartal 1-1.

Aeth yr Elyrch ar y blaen drwy Luciano Narsingh cyn yr egwyl, ond tarodd y Saeson yn ôl drwy Jon Stead ychydig ar ôl awr yn Meadow Lane.

Dydy dyddiad ail-chwarae’r gêm ddim wedi cael ei gyhoeddi eto, ond fe fydd yn tynnu sylw – am gyfnod, o leiaf – oddi ar yr her o aros yn yr Uwch Gynghrair, sy’n cael ei ystyried yn flaenoriaeth.

 

Amser ychwanegol ar y cae

Yn ôl Carlos Carvalhal, mae’r gêm ychwanegol yn y gwpan yn rhoi mwy o amser i’w chwaraewyr ar y cae.

“Mae gyda ni garfan sy’n barod a gall chwaraewyr eraill chwarae mewn gemau felly dw i ddim yn credu bod hynny’n beth negyddol,” meddai.

“Dw i ddim yn cytuno ei fod yn beth drwg oherwydd fe wnes i wyth o newidiadau. Efallai pe baen ni’n chwarae’r gemau nesaf gyda’r un unarddeg o chwaraewyr yna, ie, ond bydda i’n symud wyth neu naw chwaraewr eto.

“Dw i ddim yn teimlo ei fod yn beth negyddol, dyw hi ddim yn broblem.”

Cyn y gêm, dywedodd ei fod yn dymuno “parchu” y gystadleuaeth drwy enwi tîm cryf. Ond dywedodd na fyddai’n “ddiwedd y byd” pe na baen nhw’n cyrraedd y rownd nesaf.

“Os nad ydyn ni’n mynd drwodd a chyrraedd y rownd nesaf, yna fydd hi ddim yn ddiwedd y byd oherwydd ein prif gystadleuaeth yw’r Uwch Gynghrair, mae hynny’n glir iawn.

“Ond mae’r gystadleuaeth hon yn dda oherwydd mae’r holl chwaraewyr ynghlwm wrthi.”