Mae rheolwr Abertawe, Carlos Carvalhal, wedi bod yn sôn am ei ‘hunllef’ wrth geisio chwaraewyr newydd i helpu i gadw’r Elyrch yn yr Uwch Gynghrair.

Er bod sibrydion fod Abertawe yn ceisio denu Kevin Gameiro a Nicolas Gaitan o Atletico Madrid ac Amin Younes o Ajax, nid yw Carlos Carvlhal wedi ychwanegu neb at at y garfan eto ers iddo gychwyn yn ei swydd.

Dywed fod trafodaethau trosglwyddo a chael chwaraewyr da yn anodd yn y dyddiau sydd ohoni.

“Rydym yn y broses o ddenu chwaraewyr, ond does dim byd yn derfynol eto,” meddai, wrth edrych ymlaen at y gêm gartref yn erbyn Lerpwl nos Lun.

‘Brwydro’

“Mae’r ffenest drosglwyddo yn hunllef, ond rydym yn brwydro am chwaraewyr da.

“Nid yw’n hawdd, ond mae pawb ohonon ni sy’n gweithio ar hyn yn y clwb yn disgwyl o leiaf un chwaraewr yn nyddiau olaf y ffenest.”

Dywed ei fod yn meddwl am chwaraewyr newydd drwy’r adeg.

“Fe wnes i godi am chwech heddiw, ac ro’n i’n meddwl am ddau neu dri chwaraewr ar unwaith,” meddai.

“Ond wedyn rhaid imi baratoi’r tîm a chanolbwyntio ar fy chwaraewyr. Cyn gynted ag mae’r hyfforddiant drosodd dw i’n meddwl eto am chwaraewyr newydd.”

Mae Abertawe bedwar pwynt oddi wrth ddiogelwch gyda 15 gêm ar ôl i’w chwarae.

“Dw i’n deall bod y cefnogwyr yn rhwystredig ac maen nhw’n gywir am y sefyllfa,” meddai.

“Ond mae’r ymateb wedi bod yn wych, ac mae’r ymroddiad a’r agwedd yno.”