Wrecsam 4–0 Torquay                                                                      

Sgoriodd Chris Holroyd hatric wrth i Wrecsam ennill yn gyfforddus yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr yn erbyn Torquay ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Peniodd y blaenwr cartref ei dîm ar y blaen o gic gornel Marcus Kelly wedi dim ond naw munud cyn i Manny Smith ddylu’r fantais gyda pheniad arall wedi hanner awr.

Roedd hi’n dair cyn yr egwyl diolch i ail Holroyd, yn sgorio y tro hwn wedi gwaith creu ardderchog Paul Rutherford.

Cwblhaodd Holroyd ei hatric gyda chic o’r smotyn yn dilyn llawiad funud o ddiwedd y naw deg ond roedd y tri phwynt yn ddiogel ym mhell cyn hynny.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Dreigiau i’r pedwerydd safle yn y tabl ac yn adfywio eu gobeithion o esgyn.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Roberts (Carrington 45’), Smith, Kelly, Jennings (Hurst 87’), Pearson, Rutherford (Mackreth 81’), Wedgbury, Miller, Boden, Holroyd

Goliau: Holroyd 9’ 37’, 89’, Smith 30’

Cardiau Melyn: Rutherford 24’, Jenning 52’

.

Torquay

Tîm: Dorel, O’Sullivan, Efete, Lathrope (Gosling 77’), Young, Fletcher (Keating 59’), Dowling, Reid, McGinty, Andersson, Davis

.

Torf: 4,242