Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi diswyddo’r prif hyfforddwr Paul Clement ar ôl llai na blwyddyn wrth y llyw.

Mae’r Elyrch ar waelod tabl Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl ennill dim ond 12 o bwyntiau yn eu 18 gêm y tymor hwn.

Mae’r is-reolwr Nigel Gibbs a’r hyfforddwr ffitrwydd Karl Halabi hefyd wedi gadael y clwb.

Maen nhw wedi colli wyth allan o’r 10 gêm ddiwethaf, ac maen nhw bedwar pwynt islaw’r safleoedd diogel ar ôl colli o 3-1 yn erbyn Everton ar Barc Goodison nos Lun.

Roedd yr Elyrch ar waelod y tabl pan gafodd y Sais ei benodi ym mis Ionawr, ond fe lwyddodd i’w cadw yn yr Uwch Gynghrair ddiwedd y tymor diwethaf.

Ond maen nhw wedi bod o dan gryn bwysau unwaith eto eleni ar ôl colli Gylfi Sigurdsson i Everton a Fernando Llorente i Spurs.

‘Y peth diwethaf roedden ni eisiau ei wneud’

Mewn datganiad, dywedodd Cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, Huw Jenkins: “Newid rheolwr, yn enwedig dim ond hanner ffordd drwy’r tymor, oedd y peth diwethaf roedden ni eisiau ei wneud fel clwb.

“Fe gawson ni dri rheolwr gwahanol y tymor diwethaf ac o ganlyniad, roedden ni i gyd eisiau rhoi cymaint o amser â phosib i Paul i wyrdroi pethau.

“Ond roedden ni’n teimlo nad oedden ni’n gallu ei adael lawer hirach a bod angen gwneud newid er mwyn rhoi’r cyfle gorau i ni godi unwaith eto a gwyrdroi pethau gyda’r clwb ar waelod yr Uwch Gynghrair.

“Mae Paul wedi bod gyda’r clwb ers 12 mis ac mae’r hyn gyflawnodd e yn ail hanner y tymor diwethaf i’n cadw ni yn y gynghrair uchaf yn dipyn o gamp.

“Am hynny a’i ymdrechion ac ymroddiad y tymor hwn, does dim angen dweud bod y clwb yn diolch iddo am ei waith, ynghyd â Nigel a Karl.

“Dw i wedi cael perthynas waith ardderchog gyda Paul ac rydym ni i gyd, gan gynnwys y perchnogion, wedi ein synnu a’n siomi nad yw wedi llwyddo’r tymor hwn.

“Dymunwn bob llwyddiant i Paul yn ei yrfa yn y dyfodol.”

Mae disgwyl cyhoeddiad maes o law yn dweud pwy fydd wrth y llyw ar gyfer y gêm yn erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn.