Abertawe 1–0 West Brom                                                              

Cododd Abertawe oddi ar waelod tabl Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth dros West Brom ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Roedd un gôl hwyr Wilfried Bony yn ddigon i gipio’r fuddugoliaeth i’r Elyrch, dim ond eu trydedd o’r tymor.

Roedd cyffro’n brin mewn hanner cyntaf diflas a chwaraewr canol cae West Brom, Jake Livermore, a ddaeth agosaf at agor y sgorio, a hynny gyda pheniad yn erbyn ei bostyn ei hun!

Roedd Abertawe’n well wedi’r egwyl ac fe ddaeth Bony yn agos at agor y sgorio unwaith cyn gwneud yn union hynny gyda deg munud yn weddill. Adlamodd y bêl yn garedig i’r blaenwr yn y cwrt cosbi wedi cic gornel ac fe saethodd yntau hi’n syth i gefn y rhwyd.

Methodd Tammy Abraham gyfle gwych i ddyblu’r fantais yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm ond roedd un gôl yn ddigon i dîm Paul Clement.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Abertawe o waelod y tabl, dros Crstal Palace a gafodd gêm gartref gyfartal yn erbyn Bournemouth.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, van der Hoorn, Mawson, Olsson, Ki Sung-yueng, Mesa, Carroll (Abraham 76’), Routledge (Ayew 56’), Bony, Dyer (Narsingh 65’)

Gôl: Bony 81’

Cardiau Melyn: Carroll 51’, Mesa 86’

.

West Brom

Tîm: Foster, Nyom, Hegazi, Evans, Gibbs, Livermore, Yacob, Field McClean 45’), Robson-Kanu (Burke 78’), Rondon, Rodriguez (Brunt 82’)

Cardiau Melyn: Yacob 16’, Field 35’, Robson-Kanu 78’, Evans 84’, Brunt 88’

.

Torf: 19,580