Macclesfield 4–1 Wrecsam                                                            

Sgoriodd Scott Wilson hatric wrth i Macclesfield drechu Wrecsam i godi drostynt i frig Cynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.

Teithiodd dros 900 o gefnogwyr Wrecsam i’r gêm ond y tîm cartref aeth â hi yn y rhew a’r eira ar Moss Rose.

Rhoddodd Wilson y tîm cartef ar y blaen wedi dim ond chwe munud ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Yn wir, felly yr arhosodd hi tan chwarter awr o’r diwedd pan unionodd Scott Boden y sgôr gyda pheniad i’r ymwelwyr o ogledd Cymru.

Roedd Macclesfield yn ôl ar y blaen bedwar munud yn ddiweddarach diolch i ail gôl Wilson o bas dreiddgar Tyrone Marsh, ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel pan gwblhaodd y blaenwr ei hatric gyda gôl flêr yn fuan wedyn.

Ychwanegodd David Fitzparick bedwaredd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm i roi gwedd gyfforddus ar y sgôr.

Mae’r canlyniad yn codi Macclesfield dros Wrecsam i frig y tabl, gyda’r Dreigiau’n llithro i’r trydydd safle.

.

Macclesfield

Tîm: Jalal, Hodgkiss, Fitzpatrick, Lloyd, Marsh, Lowe, Wilson, Kennedy, Whitehead, Burgess, Whitaker

Goliau: Wilson 6’, 78’, 82’, Fitzpatrick 90+2’

Cerdyn Melyn: Ramsbottom 65’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Hurst, Jennings, Carrington, Pearson, Smith, Holroyd, Rutherford (Mackreth 82’), Kelly (Miller 60’), Roberts, Boden

Gôl: Boden 74’

Cerdyn Melyn: Hurst 56’

.

Torf: 2,402