Abertawe 0–0 Bournemouth                                                         

Cofnododd Abertawe eu pwynt cyntaf mewn pum gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr gyda gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Bournemouth ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Roedd Wilfried Bony yn meddwl ei fod wedi rhoi’r Elyrch ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond cafodd y ei gôl ei gwrthod gan y dyfarnwr.

Cafodd Leroy Fer gyfle da i’w hennill hi yn yr ail hanner hefyd ond methodd y gŵr o’r Iseldiroedd a chanfod cefn y rhwyd a bu rhaid i’w dîm fodloni ar bwynt yn unig.

Mae’r pwynt yn cadw Abertawe yn y pedwerydd safle ar bymtheg yn y tabl ond pwynt yn unig sydd bellach yn eu gwahanu hwy a Crystal Palace ar y gwaelod.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, van der Hoorn, Mawson, Olsson, Ki Sung-yueng, Carroll, Renato Sanches (Fer 71’), Ayew (Abraham 84’), Bony

Cardiau Melyn: Mesa 69’, Olsson 75’, Mesa Ki Sung-yueng 75’, Bony 90+2’

.

Bournemouth

Tîm: Befovic, Smith, S. Cook, Ake, Daniels Ibe (Gosling 88’), Surman, Arter (L. Cook 90

+4’), Pugh, King, Wilson (Afobe 79’)

Cardiau Melyn: Ibe 75’, King 88’

.

Torf: 20,228