Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi cyfaddef ei fod yn “gofidio” am sefyllfa’r Elyrch ar ôl i’r perchennog Americanaidd, Steve Kaplan deithio i Burnley brynhawn ddoe i wylio’r tîm yn colli o 2-0.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Elyrch yn y tri safle isaf yn yr Uwch Gynghrair, ac fe ddangosodd y cefnogwyr eu dicter ar ddiwedd y gêm yn Turf Moor.

Dywedodd Paul Clement fod y perchennog yn yr ystafell newid cyn y gêm, a’i fod yn disgwyl cynnal trafodaeth eto’n fuan.

Ond mae lle i gredu bod Steve Kaplan a’i gyd-berchennog Jason Levien yn barod i roi mwy o amser i Paul Clement ar ôl iddo lwyddo i gadw’r tîm yn yr Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Gofid

Dywedodd Paul Clement ar ôl y gêm: “Yn amlwg, dyw e ddim yn mynd i fod yn hapus gyda’r perfformiad na’r canlyniad. Dw i ddim, dyw’r staff technegol ddim a dyw’r chwaraewyr ddim.

 

 

“Ydw i’n gofidio? Ydw, wrth gwrs. Byddwn i’n dwp pe na bawn i’n gofidio. Dw i’n gofidio am lefel y perfformiad, yn gofidio am ein safle yn y tabl, faint o goliau ry’n ni wedi’u sgorio neu heb eu sgorio.”

Ychwanegodd mai “hawl” y perchnogion yw chwilio am rywun arall i wella’r canlyniadau, ond nad oes ganddo fe “ddim amheuaeth” yn ei allu i wyrdroi’r sefyllfa.

Jack Cork

Cyn-chwaraewr canol cae yr Elyrch, Jack Cork oedd un o’r chwaraewyr oedd wedi eu cosbi, wrth iddo rwydo gôl gynta’r gêm.

Fe adawodd e Stadiwm Liberty am ogledd Lloegr am £10 miliwn dros yr haf ac ers hynny, mae e wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Lloegr, gan chwarae yn ei gêm gyntaf yn erbyn yr Almaen yr wythnos ddiwethaf.

Mae e wedi sgorio dwy gôl mewn 12 o gemau i’w glwb newydd – yr un nifer o goliau ag a gafodd i Abertawe dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner.