Mae hyfforddwr newydd Clwb Pêl-droed Caernarfon yn anelu am ddyrchafiad yn ei swydd gyntaf fel rheolwr.
Y Caneris sydd ar frig cynghrair y Cymru Alliance ar hyn o bryd.
Ac mae Sean Eardley yn brolio swyddogion “gweithgar” y clwb ac yn credu bod llwyddiant rownd y gornel.
Bu Sean Eardley yn ddirprwy i’r cyn-reolwr y Caneris, Iwan Williams, cyn i hwnnw adael yn ddiweddar er mwyn rheoli Llandudno.
“Roeddwn yn ‘nabod Iwan Williams ers rhai blynyddoedd, wedi bod ar gyrsiau hyfforddi efo fo, a wnaeth o ofyn i mi ymuno â fo yng Nghaernarfon fel is- reolwr,” meddai Sean Eardley am sut yr ymunodd â Chlwb Pêl-droed Caernarfon.
“Roedd yn wych i ymuno â chlwb oedd yn rhannu’r un uchelgais â fi. Roedd pwyllgor gweithgar yno, roeddwn yn gwybod yn syth fy mod wedi gwneud y penderfyniad iawn.
“Mae’r cyfnod diweddar gydag Iwan yn gadael am Landudno wedi bod yn hurt. Roeddwn yn falch dros Iwan yn cael ymuno â chlwb yn yr Uwch Gynghrair. Mi wnes eistedd i lawr â’r bwrdd a phenderfynu derbyn y swydd, er mai hyfforddwr ydw i yn y bôn.
“Rwy’n meddwl bod y cyfle i fod yn rheolwr yn mynd i roi profiadau gwahanol i mi, a dysgu ochr arall i’r gêm.”
Ar hyn o bryd mae’r Cofis ar frig tabl y Cymru Alliance, ac ar y trydydd o Ragfyr fe fyddan nhw yn herio’r Barri o’r Uwch Gynghrair yng Nghwpan Cymru – gêm sy’n cael ei dangos ar S4C.
Caernarfon v Treffynnon ddydd Sadwrn, cic gyntaf 14.30.