Casnewydd 2–1 Walsall                                                                   

Bydd Casnewydd yn yr het ar gyfer ail rownd y Cwpan FA wedi iddynt drechu Walsall o’r Adran Gyntaf yn y rownd gyntaf ar Rodney Parade nos Sadwrn.

Roedd goliau’r blaenwyr cartref, Frank Nouble a Shawn McCoulsky, yn ddigon i’r Alltudion er i’r ymwelwyr dynnu un yn ôl i greu diweddglo nerfus.

Dechreuodd Casnewydd yn dda ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen wedi deunaw munud diolch i Nouble. Gwnaeth y blaenwr mawr yn dda i greu’r cyfle iddo’i hun cyn i’w ergyd o bum llath ar hugain elwa o wyriad mawr i guro Mark Gillespie yn y gôl.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond dyblwyd y fantais yn gynnar yn yr ail gyfnod. Roedd llai na hanner munud wedi mynd ers yr ail ddechrau pan anelodd McCoulsky hanner croesiad hanner ergyd i’r gornel isaf.

Cafodd Nouble gyfle i gau pen y mwdwl chwarter awr o’r diwedd ond er i’w beniad guro Gillespie fe aeth fodfeddi heibio’r postyn.

Ddau funud yn ddiweddarach yr oedd Walsall wedi tynnu un yn ôl gyda pheniad Amadou Bakayoko o groesiad Maz Kouhyar ac roedd diweddglo nerfus o flaen y tîm cartref.

Ond fe amddiffynnodd tîm Mike Flynn yn ddewr gan ddal eu gafael a sicrhau eu lle yn ail rownd y gystadleuaeth enwog.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, White, O’Brien (Bennett 69’), Demetriou, Butler, Tozer, Dolan, Wilmott, McCoulsky (Amond 81’), Nouble

Goliau: Nouble 18’, McCoulsky 46’

.

Walsall

Tîm: Gillespie, Kinsella, Donnellan, Guthrie, Leahy, Chambers, Edwards (Bakayoko 62’), Morris, Ismail, Roberts, Oztumer (Kouhyar 74’)

Gôl: Bakayoko 77’

.

Torf: 2,701