Mae pêl-droediwr ifanc sydd â chysylltiadau Cymreig, wedi chwarae ei gêm gyntaf i glwb Chelsea.

Er nad yw Ethan Ampadu wedi chwarae dros Gymru eto mae wedi ymuno â dwy garfan fwyaf diweddar Chris Coleman.

Wrth gamu i’r cae nos Fercher (Hydref 25) cyfrannodd y llanc 17 oed at fuddugoliaeth 2-1 y clwb yn erbyn Everton.

 hithau’n gêm Gwpan Carabao, llwyddodd i gadw’r ‘Toffees’ oddi wrth y gôl gan lenwi safle canol cae amddiffynnol.

Mae ei berfformiad wedi ennyn tipyn o ymateb ar gyfryngau cymdeithasol, gyda llawer yn ei ganmol am ei ganolbwyntio yn ystod y gêm.