Fe gollodd Casnewydd eu hail gêm yn olynol brynhawn yma wrth i Kidderminster eu trechu o dair gôl i un. Maen nhw’n awr yn 17eg yn y gynghrair gyda chwe phwynt yn eu chwe gêm gyntaf.

Am yr ail gêm yn olynol, fe gafodd dau o chwaraewyr Casnewydd eu hanfon o’r cae.

Derbyniodd yr amddiffynnwr a chapten Casnewydd, Garry Warren, gerdyn coch ar ôl tacl hwyr ar Steve Guinan ac fe gafodd Ismail Yakubu ddau gerdyn melyn. Golyga hynny y bu rhaid i’r tîm cartref orffen gyda 9 dyn yn unig.

Jack Byrne sgoriodd y gôl gyntaf i Kidderminster ar ôl 49 munud, cyn i Sam Foley unioni’r sgôr i Gasnewydd.

Ond yna fe roddodd Tom Miller y bêl yn ei gôl ei hun i roddi’r fantais yn ôl i’r ymwelwyr. Ychwanegodd Luke Jones drydydd i selio’r fuddugoliaeth i Kidderminster.