Alan Tate
Mae Abertawe wedi dioddef ergyd ddifrifol wrth i’r cefnwr Alan Tate dorri ei goes mewn damwain ar gwrs golff.

Dywed datganiad ar wefan y clwb fod Tate yn teithio mewn bygi golff a aeth allan o reolaeth.

Aed â’r chwaraewr i Ysbyty Treforys lle darganfwyd ei fod wedi cracio asgwrn tibia ei goes chwith.

Mae Tate yn un o dri yn unig o chwaraewyr presennol Abertawe sydd wedi chwarae i’r clwb ym mhob un o’r pedair adran.

Roedd yn un o’r chwaraewyr yn y fuddugoliaeth 3-2 yn erbyn Hull yn 2003 a achubodd yr Elyrch rhag disgyn allan o’r Gynghrair Bêl-droed yn 2003.

Hwn yw 10fed tymor y chwaraewr 28 oed gydag Abertawe ac mae wedi chwarae dros 300 o gemau i’r clwb.