Er iddyn nhw fod ar y blaen am 10 munud o’r gêm, fe wnaeth yr Adar Glas yn dda i ddal eu tir yn erbyn Portsmouth y prynhawn yma.

Ar ôl hanner cyntaf di-sgôr, Portsmouth oedd y tîm mwyaf ymosodol ar ôl yr egwyl, ac fe fu hi ond y dim iddyn nhw sgorio fwy nag unwaith.

Ond llwyddodd Andrew Taylor i roi Caerdydd ar y blaen o fewn 20 munud i’r diwedd ar ôl pas perffaith gan Craig Conway.

Fodd bynnag, o fewn 10 munud roedd Portsmouth wedi taro’n ôl, wrth i Nwankwo Kanu benio’r bêl i’r rhwyd, bum munud yn unig ar ôl dod i’r cae oddi ar y fainc.

Fe wnaeth Caerdydd yn dda i osgoi gôl bellach yn eu herbyn ym munudau olaf y gêm, a’r gôl gan Kanu mewn gwirionedd oedd y lleiaf yr oedd y tîm cartref yn ei haeddu ar ôl perfformiad cryf.

Nid dyma’r tro cyntaf i Kanu daro’n erbyn yr Adar Glas – gan iddo sgorio yn erbyn Caerdydd yng ngêm derfynol Cwpan yr FA dair blynedd yn ôl.