Er i Abertawe ddal eu tir a llwyddo i gael gêm gyfartal yn erbyn Sunderland yn Stadiwm Liberty heddiw, maen nhw’n dal heb sgorio gôl yn yr Uwch Gynghrair.

Methu â manteisio ar eu cyfleoedd oedd eu hanes drwy’r gêm, gyda Danny Graham yn methu â phenio’r bêl i gôl agored, er iddo orfodi dau arbediad da gan Simon Mignolet, a Scott Sinclair yn taro’r bar.

Di-fflach oedd perfformiad Sunderland hefyd, a dydyn nhwythau chwaith ddim wedi ennill yr un gêm hyd yma’r tymor hwn.

Roedd rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi dewis yr un XI a chwaraeodd yn erbyn Wigan yr wythnos ddiwethaf.