Ar drothwy’r tymor newydd dyma barhau i broffilio clybiau Uwchgynghrair Cymru, gan gynnwys barn y cefnogwyr am eu gobeithion ar gyfer y tymor sydd i ddod

Fe fyddwn yn cyhoeddi proffiliau dau glwb bob diwrnod nes y gêm gyntaf yfory.

Caerfyrddin :

Stadiwm –  Parc Richmond

Rheolwr – Tomi Morgan

Trosglwyddiadau – Haf 2011

Mewn –  jack Christopher, Kyle Graves

Allan – Daniel Sheehan

Barn  –

Gareth Jones –

“Ar ddechrau’r tymor diwethaf Caerfyrddin oedd y ffefrynnau i orffen ar waelod y gynghrair. Gydag ymadawiad canran uchel iawn o’r garfan ac ymddiswyddiad Deryn Brace fel rheolwr roedd y clwb mewn trafferthion.

“Profwyd y proffwydi yn anghywir. Penodwyd Tomi Morgan yn rheolwr am yr eilwaith a llwyddodd i ddenu to newydd o chwaraewyr i’r clwb. Llwyddodd y rhain, a chwaraewyr profiadol gan gynnwys Tim Hicks, Dale Griffiths a Sacha Walters, i sicrhau fod yr Hen Aur yn cadw eu lle yn y gynghrair.

“Beth am y tymor 2011/12 felly? Mae Morgan dal wrth y llyw ac wedi bod yn brysur yn denu chwaraewyr newydd i’r clwb er mwyn cryfhau ei garfan.

“Llwyddwyd i ddenu Jack Christopher, prif sgoriwr Hwlffordd, i Barc Waun Dew, er mwyn cryfhau’r llinell flaen. Ychwanegwyd troed chwith Cledan Davies o Aberystwyth er mwyn cael cydbwysedd yng  nghanol cae. Mae yna dri amddiffynnwr newydd yn y garfan hefyd – Kyle Graves (gynt o Hwlffordd), Steve Berry (yn ymuno ar ôl tymor gyda Molidan yn Sweden) a Craig Hanford sydd yn dychwelyd i’r clwb o Afan Lido.

“Ond er bod Caerfyrddin wedi cryfhau mae nifer o’r timau eraill wedi bod wrthi’n ddyfal hefyd. Bydd Castell Nedd yn sicr yn disgwyl gwell o’i charfan tra bod Llanelli, Bangor a’r Seintiau cyn gryfed ac arfer.

“Y nod i Morgan a’i griw fydd ceisio gorffen yn y chwech uchaf er mwyn cael chwarae yn y gemau ail gyfle. Mae’r garfan yn aeddfedu yn raddol ac yn llawn botensial.”

Drenewydd:

Stadiwm – Parc Latham

Rheolwr – Bernard Mcnally

Trosglwyddiadau Haf 2011

Mewn – Keiren Mills- Evans, Anwar Olugbon, Kevin Davies, Joe Evans, Nick Thomas

Allan – Paul Keddle, Steve Jones, Dave Roberts, Dylan Blain, Michael Jackson, Adam Worton,

Barn

Marc Morgan –

“Ar ôl cyfnod cythryblus oddi ar y cae yn Y Drenewydd, mae’r clwb yn barod am ymgyrch newydd, wrth i’r rheolwr newydd, Bernie McNally baratoi ei dim newydd wedd ar gyfer y daith i Gaerfyrddin. Dim ond wyth aelod o garfan blwyddyn ddiwethaf sydd wedi parhau gyda’r clwb.

“Er i’r clwb golli nifer o chwaraewyr pwysig, megis y capten Adam Worton, sydd wedi mynd i Airbus, yn ogystal â Dylan Blain a Paul Keddle, sydd wedi  arwyddo i Bort Talbot, mae’r clwb wedi arwyddo nifer o chwaraewyr newydd, llawn botensial. Mae’r clwb arwyddo chwaraewyr lleol, megis Joe Evans, a ddaeth o’r academi, a Keiran Mills-Evans, gynt o’r Amwythig. Hefyd, mae Anwar Olugbon wedi ymuno. Ganed ef yn Ghana, ac fe fydd ei gyflymder yn siŵr o ofni amddiffynwyr nifer o glybiau’r tymor yma.

“Dw i’n disgwyl i ni fod yn un o’r clybiau ar waelod y Gynghrair, gan fod rhai o’r clybiau eraill sydd a chanddynt fwy o arian wedi cryfhau eu carfanau yn sylweddol. Mae’r tîm yn dechrau’r  ymgyrch yn erbyn Caerfyrddin, Aberystwyth a Bala, sy’n dri chlwb mae angen eu curo. Ond mae Caerfyrddin yn glwb mae’r Drenewydd yn tangyflawni yn eu herbyn am ryw reswm.”