Y capten, Aaron Ramsey yn modelu crys newydd Cymru a gafodd ei ddefnyddio am y tro cyntaf yn erbyn Awstralia
Cymru 1 – 2 Awstralia
 

Colli oedd hanes tîm pêl-droed Cymru wrth iddyn nhw herio Awstralia mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd heno.

Roedd gan Gary Speed garfan gref i ddewis ohoni, ac fe ddechreuodd y gêm gyda’r tri phrif seren Craig Bellamy, Aaron Ramsey a Gareth Bale oll yn y tîm.

Er i Gymru reoli’r meddiant yn yr hanner cyntaf, prin oedd y cyfleoedd i’r tîm cartref ac roedden nhw gôl ar ei hôl hi ar ôl i Tim Cahill sgorio i’r ymwelwyr funud cyn yr hanner.

Fel sy’n arferol mewn gemau cyfeillgar fel hyn, fe welwyd rhai newidiadau ar yr hanner ac fe wellodd pethau rhywfaint i’r Cymry.

Er hynny, aeth Awstralia ddwy ar y blaen wrth i Robbie Kruse rwydo.

Er tegwch i’r Cymry, fe ddangosodd y chwaraewyr ddyfalbarhad ac os rhywbeth roedd llawer mwy o awch yn y chwarae ar ôl yr ail gôl.

Rhoddwyd gobaith i’r cefnogwyr gydag wyth munud yn weddill gyda’r eilydd Darcy Blake yn sgorio gyda pheniad o gic gornel – ei gôl gyntaf erioed mewn pêl-droed hŷn.

Er i’r Cymry ddal ati i ymosod doedd dim ail i fod a bu’n rhaid i Gary Speed setlo am ei bedwaredd golled mewn pum gêm fel rheolwr ar ei wlad.