Garry Monk
Mae Garry Monk, capten Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi arwyddo cytundeb am dair blynedd arall.

Mae’r amddiffynnwr 32 oed wedi ennill dros 200 o gapiau i’r clwb ers ymuno â nhw yn ôl yn 2004 ar ôl gadael Barnsley.

Roedd contract gwreiddiol Monk yn golygu y byddai yn aros gydag Abertawe tan ddiwedd y tymor, ond nawr mae’r chwaraewr, gynt o Southampton a Torquay, wedi penderfynu aros nes 2013-14.

Pan fydd Abertawe’n cychwyn eu hymgyrch gyntaf yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn Manchester City y penwythnos nesaf, fe fydd yn un o lond llaw o chwaraewyr sydd wedi chwarae i Abertawe ym mhob un o gynghreiriau pêl-droed uchaf Lloegr.

Ayala

Mae Abertawe  hefyd yn trafod y posibilrwydd o arwyddo’r amddiffynnwr ifanc Daniel Ayala o glwb Lerpwl.

Derbyniodd Lerpwl gynnig gan Hull amdano ar Ddydd Sadwrn, oedd yn caniatáu i Ayala siarad gyda’r clwb o’r bencampwriaeth.

Ond yn ôl adroddiadau mae Abertawe yn paratoi eu cynnig eu hunain am y Sbaenwr 20 oed.

Ymunodd Ayala a Lerpwl o Seville yn ôl yn 2007, ond mae wedi methu a sefydlu ei hun o fewn y garfan, gan ennill pedwar o gapiau’n unig.

Ond fe wnaeth argraff ar fenthyg â Hull y tymor diwethaf, ac fe chwaraeodd i Derby County a faeddodd Abertawe 2-1 ym mis Mawrth.

Does dim sôn wedi bod hyd yn hyn am ffi benodol am y chwaraewr.