Owain Tudur Jones
Mae Owain Tudur Jones wedi ei ychwanegu at garfan ryngwladol Cymru cyn eu gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Dinas Caerdydd Nos Fercher.

Fe ymunodd â gweddill y garfan Ddydd Sul ar gyfer sesiwn ymarfer. Gwerthwyd ef gan Norwich City fis diwethaf, ac mae bellach yn chwarae â Inverness Caledonian Thistle yn Uwch Gynghrair yr Alban.

Gorfu i James Collins (anaf i’w gefn), Sam Vokes (ffêr) ac Andrew Crofts (ffêr) dynnu allan o’r garfan a gyhoeddwyd ar faes yr Eisteddfod yr wythnos diwethaf.

Bydd Gary Speed yn gobeithio y bydd Gareth Bale yn iach am y tro cyntaf ers iddo gychwyn rheoli tîm Cymru ym mis Rhagfyr y llynedd.

Mae Bale wedi methu pob un o’r pedair gem sydd wedi eu chwarae dan reolaeth Speed hyd yn hyn.

Mae’r Elyrch, Ashley Williams a Joe Allen, yn dychwelyd wedi iddynt fethu’r fuddugoliaeth 2-0 yn erbyn Gogledd Iwerddon yng Nghwpan Cenhedloedd Carling ym mis Mai.

Cafodd Ched Evans gadw’i le yn y garfan er iddo gael ei gyhuddo o dreisio merch yn ddiweddar.

Mae Craig Bellamy ymhlith y pum ymosodwr sydd wedi cael eu dewis. Er hynny, mae ei ddyfodol gyda Manchester City, a lle fydd yn chwarae’r tymor nesaf yn parhau yn aneglur.