Craig Bellamy
Mae’n bosib y gall Craig Bellamy symud i Celtic am gyfnod ar fenthyg.

Bu adroddiadau rhai wythnosau yn ôl fod cytundeb rhwng Man City a Chaerdydd am Bellamy yn debygol, ond daeth dim ohono.

Mae Bellamy wedi cyhoeddi yn y gorffennol na fyddai’n chwarae i unrhyw glwb arall yn uwch-gynghrair Lloegr heblaw am Man City.

Dywedodd ar ddechrau’r haf ei fod yn awyddus iawn i ddychwelyd i’w glwb cartref, Caerdydd, lle y treuliodd y tymor diwethaf.

Ond mae’n debyg fod Roberto Mancini, rheolwr Manchester City, yn fodlon caniatáu i’r ymosodwr fynd i Celtic ar fenthyg.

Bu Bellamy, sy’n 32 oed, gyda Celtic am gyfnod yn ôl yn 2005. Dywedodd Neil Lennon, rheolwr Celtic: “Mae’r ddau glwb wedi bod yn trafod y sefyllfa.”

Ac fe ymatebodd Mancini: “Os yw Celtic eisiau Craig…yna fe geith fynd. Mae o’n ymosodwr da, ac fe all ffitio i mewn yn Celtic oherwydd maen nhw’n glwb mawr.”

Bu Man City a Celtic yn cystadlu yn yr un twrnamaint cyn dechrau’r tymor yn Nulyn dros y penwythnos, ac yno y datgelodd Lennon fod ganddo’i lygad ar Bellamy.

“Dw i heb siarad â Manchester City, ond mae’r ddau glwb wedi bod yn siarad â’i gilydd. Gobeithio bydd mwy i’w ddweud ar y mater erbyn diwedd yr wythnos.”

Mae gan Bellamy flwyddyn yn weddill ar ei gytundeb â Man City, ond mae Roberto Mancini eisoes wedi cyhoeddi nad oedd Craig yn rhan o’i gynlluniau ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Ond mae hefyd yn annhebygol iawn y byddent yn caniatáu iddo chwarae i unrhyw glwb arall yn yr uwch-gynghrair.