Brendan Rodgers
Mae Brendan Rodgers wedi mynnu nad yw’n poeni’n ormodol am ddiffyg profiad ei garfan yn yr uwch-gynghrair, gan ddweud fod gan ei  “chwaraewyr bwynt i’w brofi”.

Dim ond 201 o ymddangosiadau yn yr uwch-gynghrair sydd gan garfan yr Elyrch rhyngddynt. Luke Moore, cyn ymosodwr West Brom ac Aston Villa, sydd â 108 o’r rheini.

Mae gan Gareth Barry, fydd yn chwarae i Manchester City yn erbyn yr Elyrch yn eu gêm gyntaf o’r tymor, 435 cap ar ei ben ei hun.

Cyhoeddodd John Hartson yr wythnos diwethaf fod yn rhaid i Abertawe ddod o hyd i chwaraewyr sydd â phrofiad o chwarae pêl-droed ar y lefel yma os ydynt am oroesi yn y gynghrair.

Pwynt i’w brofi

Ond mae Brendan Rodgers yn mynnu nad yw’n mynd i flaenoriaethu profiad wrth dargedu chwaraewyr newydd dros yr haf.

Dywedodd Rodgers wrth y wasg: “Mae digonedd o chwaraewyr yn yr uwch-gynghrair sydd wedi bod yno ers sawl blwyddyn.

“Weithiau mae chwaraewyr yn gallu mynd yn rhy gyfforddus, ac maent yn mynd i deimlo nad oes ganddynt unrhyw beth i’w brofi. Mi fyddai’n well gen i gael chwaraewyr sydd eisiau profi’u hunain.”

Dim ond saith chwaraewr yn ei garfan o 29 sydd wedi cael blas ar bêl-droed yr uwch-gynghrair hyd yn hyn, ond mae rhai o’r ymgyrchwyr mwyaf profiadol, megis David Cotterill, yn annhebygol o gael lle yn yr un ar ddeg cychwynnol.

Er hyn, mae Abertawe wedi bod yn targedu chwaraewyr profiadol dros yr haf fyddai o gymorth iddynt yn eu hymgyrch cyntaf yn y gynghrair.

Roeddynt yn awyddus i arwyddo cyn ymosodwr Bolton, Chelsea a Fulham, Eidur Gudjohnsen, ond methwyd a selio cytundeb gydag ef.

“Byddai’n dda cael rywfaint o brofiad yn y tîm, ond dwi’m yn mynd i grio am y peth,” medd Rodgers.

“Y peth pwysicaf un yw bod y chwaraewyr sydd gennym ni yn awyddus iawn i wneud argraff ar y gynghrair ac maen nhw eisiau profi’u hunain, ac yna fe wnawn ni ddod a chwaraewyr eraill i mewn i’w cefnogi nhw.”

Cynnig am Lita

Mae Abertawe wedi symud gam yn agosach i arwyddo’r ymosodwr Leroy Lita, o Middlesborough.

Mae adroddiadau’n honni fod y ddau glwb wedi cytuno ar ffi o £1.75 miliwn amdano, ac mae disgwyl i Lita gyrraedd y Stadiwm Liberty ar ryw bwynt heddiw i drafod telerau personol gyda’r rheolwr Brendan Rodgers.

Roedd sïon wedi bod ers sbel fod Abertawe yn awyddus i arwyddo’r pâr ymosodol o Middlesborough, Leroy Lita a Marvin Emnes. Treuliodd Emnes gyfnod ar fenthyg llwyddiannus gyda’r Elyrch y tymor diwethaf.

Cadarnhaodd rheolwr Middlesborough, Tony Mowbray, fod y clybiau wedi cyrraedd cytundeb ond nad oes unrhyw warant ar hyn o bryd y bydd Lita yn symud i’r Stadiwm Liberty y tymor nesaf.